Citations:yr euog a ffy heb neb yn ei erlid
Appearance
(Redirected from Citations:yr euog a ffu heb neb yn ei erlid)
Welsh citations of yr euog a ffu heb neb yn ei erlid and yr euog a ffy heb neb yn ei erlid
- 1821 October, Lot Hughes (translator), Thomas Staines (author), “Hanes Ynys Pitcarn a’i thrigolion” in Yr Eurgrawn Wesleyaidd, neu Drysorfa o Wybodaeth Ddwyfol ac Iachusol, volume XIII, Dolgellau: Richard Jones, № 10, page 370:
- Efe a’u cymhellodd hwy i’w ddilyn ef i’w dŷ; ar y cyntaf efe a ddychrynodd rhag ofn fod dyfodiad yr ymwelwyr i’r lle hwn i’w ddal ef; ond pan yr hysbyswyd iddo fod eu dyfodfa o natur heddychol, a’u bod hwy yn hollawl ddieithriaid o’u hanfodiad, rhyddhawyd ef o’r anesmwythder, “Yr euog a ffu heb neb yn ei erlid.”
- He constrained them to follow him to his house; at the first he took fright in case the coming of the visitors to this place was to capture him; but when it was made known to him that their coming was of a peaceful nature, and they came as total strangers, he was released from the trouble, “The guilty flee without a pursuer.”
- 1833, Richard Jones, Y Gorsen Ysig, neu Lin yn mygu; sef hanes dechreuad a chynnydd Corph y Trefnyddion Calfinaidd, yn fwyaf neillduol yn y rhan-barth ogleddol o Gymru: Mewn cyn lleied o le ag a ellir, Llanrwst: John Jones, pages 14–15:
- Gellir meddwl fod yma gymdeithas felys iawn rhyngddynt, a llawer ochenaid ddwys i’r nefoedd. Henffych i’r awr. Yn yr hanes hon ceir yr hen ddiareb hon yn gyflawn, “Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid.” Y pregethwr goreu ydyw pregethwr profiadol; a phrofiad a atteb i brofiad.
- It can be considered that here was a very sweet communion between them, and many deep groanings to heaven. Hail the hour. In this account is found the old proverb in its entirety “The guilty flee without a pursuer.” The best preacher is the experienced preacher; and experience answers to experience.
- 1852 June, David Griffiths of Dryslwyn-fawr, “Ailenedigaeth” in Y Diwygiwr; yn cynwys Cofiantau Duwinyddiaeth, Gwleidiadaeth, Barddoniaeth, Peroriaeth, Adolygiadau, Hanesion Cartrefol a Thramor, &c., volume XVII, Llanelli: D. Rees a J. Williams, № 203, page 179/2:
- Yn yr adeg dywyll hon y teimlasant eu heuogrwydd, ac yn nyfnderoedd y pwll syrthiasant; yr anmhosiblrwydd a’r anobaith i ddianc o honi a’i daliodd, ac ymguddio a wnaethant; a thra yn disgwyl am y soriant i ddisgyn arnynt yn helaethach, “Wele lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd gydag awel y dydd, ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, yn mysg prenau’r ardd.” Nid rhyfedd hyn, oblegid euog oeddynt. Gwir ddywed yr hen ddiareb, “yr euog a ffy heb neb yn ei erlid.”
- At this dark time they felt their guilt, and into the depths of the pit they fell; the impossibility and the hopelessness of escape from it seized them, and they hid themselves; and whilst waiting for the wrath to fall upon them in greater measure, “And they heard the voice of the Lord God walking in the garden in the cool of the day: and Adam and his wife hid themselves from the presence of the Lord God amongst the trees of the garden.” This is not strange, for they were guilty. Truely the old proverb says “The guilty flee without a pursuer.”